01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

GWEITHDY DAWNSIO STRYD HANNER TYMOR

0GWEITHDY DAWNSIO STRYD HANNER TYMOR

Dewch draw i gael hwyl ac i ddysgu yn y gweithdy UN-TRO hwn i ddechreuwyr yn yr arddull dawnsio stryd unigryw a elwir ‘Popping' sydd wedi dylanwadu ar sêr fel Michael Jackson ac Usher. "Phil The Animated Countrysider", sy'n fyfyriwr dawns gydag athro personol Michael Jackson a phencampwr ‘Popping' y DU fydd yr hyfforddwr. Yn y gweithdy un-tro hwn, byddwn yn clywed am hanes dawnsio stryd yn ogystal â dysgu rhai stepiau dawnsio stryd newydd, cŵl er mwyn eich helpu chi i allu meddwl am eich syniadau a'ch coreograffi eich hunan ar gyfer perfformiad ar ddiwedd y gweithdy.

0

Mae nifer y lleoedd ar gyfer pob un o'r gweithdai hyn yn gyfyngedig, ac felly rhaid bwcio. Cost pob gweithdy yw £4 yr un (gall un rhiant fesul plentyn gymryd rhan am ddim). Os hoffech fanylion pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â Neuadd y Dref ar 01239 615554 e-bost guildhall@menter-aberteifi.co.uk.

Pris Oedolyn: £4.00

Amserau