

Clwb Cabaret Byd Bychan yn cynnwys Oua Umplute gan Teatro Che y MocheRydym yn lawnsio cyfres o nosweithiau cabaret misol gyda cherddoriaeth danllyd Sbaeneg y Teatro Che y Moche, gyda'r Sinkoplaters, sef aelodau o'r theatr hon, gwin, tapas a llawer mwy. Cyflwynir y noson gan ‘Beyond Compere' yn ei ffordd ddihafal ei hun.

Mae Teatro Che y Moche'n un o brif theatrau stryd Sbaen a byddant yn perfformio gwaith newydd, wedi ei wobrwyo. Daw'r dylanwadau o iaith theatr a thraddodiadau Dwyrain Ewrop a cherddoriaeth y sipsiwn, ac arweinir y cyfan gan fiolinydd tra dawnus o'r Uwcraen, Teresa Polyvka.
Fe'ch gwahoddir chi i'r parti hynod yma, i glywed hanes dwl a doniol angladd eu tadcu. Mae ffars, cerddoriaeth, a dawn theatrig i gyd yn rhan o'r sioe deulu yma.
"Fantastic, cerddoriaeth gwyllt a chymeriadau garismatig!" Three Weeks (Edimburgo)
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.
Pris Oedolyn: £10.00 / Pris Consesiwn: £8.00