



Mae'n bleser i ni groesawu Phil Roberts, porthydd madarch hefo o leiaf 25 mlynedd o brofiad i arwain taith gyda Lara a Tom ac i rannu'r gwybodaeth ddiweddaraf am hela bwyd gwyllt.
Pris Oedolyn: £15.00 / Pris Consesiwn: £12.00 / Pris Teulu: £38.00


Holy Hiatus
Holy Hiatus: Dyma'r ail gynhadledd am seremoni, cymuned a lle i gael ei chynnal yn y Gorllewin o dan y teitl Holy Hiatus. Eisoes rhoddwyd nifer o brosiectau celf cyhoeddus yn eu cyd-destun mewn cynhadledd un-dydd yn Aberteifi. Bydd yr ail symposiwm yn rhaglen ddeuddydd mewn sawl rhan, yn cynnwys siaradwyr gwâdd o fyd y celfyddydau gweledol a pherfformio, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol, astudiaethau crefyddol, astudiaethau seremonïol ac anthropolegol. Profiad byw fydd prif sylwedd y digwyddiad a bydd yn gyfuniad o siaradwyr darluniadol, darlithiau perfformiadol yn ogystal â dangos ffilmiau perthnasol. Gweler y Wefan am fanylion y rhaglen, yn cynnwys y symposiwm, costau, a gostyngiadau am archebu'n gynnar.