01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

Streic 25 Strike 25

000Streic 25 Strike 25

Cynhyrchiad amlgyfrwng atgofus a heriol sy'n coffáu chwarter canrif ers streic y glowyr 1984. Bydd pobl ifanc Cwmni Theatr Mess Up The Mess yn cydweithio ag artistiaid proffesiynol i greu perfformiad bywiog a dynamig am wrthdaro a theyrngarwch, gan amlygu'r uchelbwyntiau a'r iselbwyntiau o safbwynt menywod lleol yn ystod y cyfnod dadleuol hwn.

0

Yn amrywio o ddosbarthu parseli bwyd i'r rhai mwyaf anghenus, picedu ac ymdeithio, roedd menywod yn greiddiol i'r gweithredu, gan sefyll o blaid eu gwerthoedd a'u cymuned. Mae'r cynhyrchiad unigryw hwn yn addo rhoi ciplun newydd ar gyfnod sydd wedi diffinio Prydain fodern.

I archebu tocynnau ymwelwch a Swyddfa Tocynnau Theatr Mwldan.

Pris Oedolyn: £7.00 / Pris Consesiwn: £5.00

Amserau