01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

Adnabod Eich Madarch

0000Adnabod Eich Madarch

Mae'n bleser i ni groesawu Phil Roberts, porthydd madarch hefo o leiaf 25 mlynedd o brofiad i arwain taith gyda Lara a Tom ac i rannu'r gwybodaeth ddiweddaraf am hela bwyd gwyllt.

0

Mae hwn yn weithgaredd hyfryd ar gyfer ddydd Sul ac yn ychwanegu gwybodaeth i'ch bwrdd bwyta!  Bydd y trefnwyr yn cwrdd â chi yng Nghanolfan Byd Bychan ac yna ymlaen i'r coetir gyntaf. Efallai y byddwch yn mynd i fwy nag un gyrchfan felly gwnewch yn siŵr bod trafnidiaeth gyda chi neu, os bydd angen, rhowch wybod i ni os ydych angen rhannu car. 

Mae'r gweithgaredd hwn wedi'i gynllunio i fod tua 3 awr, ond efallai y bydd yn mynd ymlaen, felly dewch a dillad cynnes ac esgidiau da.  

Rydym wedi newid y dyddiad a'r amser gwreiddiol a drefnwyd i fod yn ystod y dydd fel y bydd golau gwell ar gyfer adnabod madarch! Gan ein bod wedi ymestyn yr oriau fe'ch cynghorir i ddod â phecyn bwyd gyda chi.

Nodwch bod y pris teulu yn cynnwys 2 oedolyn a 2 blentyn am £38.

Pris Oedolyn: £15.00 / Pris Consesiwn: £12.00 / Pris Teulu: £38.00

Amserau