
Arddangosfa o Fotograffau Jig-SoBydd arddangosfa o ffotograffau a gweithiau celf eraill yn cael ei chynnal yn Neuadd y Dref, Aberteifi, rhwng 5 a 10 Hydref. Bydd yr arddangosfa hon yn cynnwys ffotograffau o weithdai gwisgoedd, yr holl hwyl yn arwain at y digwyddiad a Diwrnod Hwyl Cymunedol Jig-So.
Daw delweddau o gystadleuaeth ffotograffau Jig-So a Chlwb Camera Canolfan Meugan (grŵp i bobl anabl lleol yn y dref) a bydd hefyd yn cynnwys delweddau a dynnir gan staff a theuluoedd.
Derbyniwyd cyllid ar gyfer y digwyddiadau gan Arian i Bawb, ac fe'i hwylusir gan Ganolfan Plant Jig-So.