01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

Holy Hiatus

000Holy Hiatus

Holy Hiatus: Dyma'r ail gynhadledd am seremoni, cymuned a lle i gael ei chynnal yn y Gorllewin o dan y teitl Holy Hiatus. Eisoes rhoddwyd nifer o brosiectau celf cyhoeddus yn eu cyd-destun mewn cynhadledd un-dydd yn Aberteifi. Bydd yr ail symposiwm yn rhaglen ddeuddydd mewn sawl rhan, yn cynnwys siaradwyr gwâdd o fyd y celfyddydau gweledol a pherfformio, cymdeithaseg, daearyddiaeth ddiwylliannol, astudiaethau crefyddol, astudiaethau seremonïol ac anthropolegol. Profiad byw fydd prif sylwedd y digwyddiad a bydd yn gyfuniad o siaradwyr darluniadol, darlithiau perfformiadol yn ogystal â dangos ffilmiau perthnasol. Gweler y Wefan am fanylion y rhaglen, yn cynnwys y symposiwm, costau, a gostyngiadau am archebu'n gynnar.

0

Bydd Holy Hiatus yn archwilio nifer o themâu cysylltiedig gan gynnwys: 

• Defod a gofod
• Defod, perfformiad a phŵer 

• Defod, cerddoriaeth a'r gymuned
• Defod, llên gwerin, perthnasau dynol-anifeiliaid

Gweler www.holyhiatus.co.uk am fanylion llawn y rhaglen, gan gynnwys gostyngiadau costau'r symposiwm a'r gweithdy ar gyfer yr 'aderyn cynnar' .

 

Amserau