
Taith Gwyl Fawr AberteifiCyfle i rai sydd ddim yn siarad Cymraeg allu profi hyfrydwch yr Ŵyl Fawr, gyda thaith dywysedig wedi’i chyfieithu.

Mae Theatr y Byd Bychan yn cynnig cyfle i rai sydd ddim yn siarad Cymraeg allu profi hyfrydwch yr Ŵyl Fawr, gyda thaith dywysedig wedi’i chyfieithu o amgylch y digwyddiad. Dan arweiniad Rhian Medi, bydd pawb yn ymgasglu am 4pm yng Nghanolfan y Byd Bychan yn Aberteifi, cyn symud ymlaen i’r ganolfan hamdden i weld cystadlaethau drwy’r prynhawn a min nos. Uchafbwynt y noson fydd seremoni fawreddog Cadeirio’r Bardd.
Pris Oedolyn: £8.50 / Pris Consesiwn: £7.50