01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

The Great Taste Networking Event

Blas Mawr ~ cyfle rhwydweithio
Dydd Llun, 8 Chwefror, 2010, 6 ~ 8 o'r gloch
Canolfan Byd Bychan, Aberteifi

ImageNetworking.jpg

Dyma eich gwahoddiad i'r Blas Mawr ~ cyfle rhwydweithio gwych i bawb sy'n ymwneud â bwyd a thwristiaeth yn Iseldir Dyffryn Teifi yng Nghanolfan Byd Bychan ar ddydd Llun, 8 Chwefror, 2010, 6 ~ 8 o'r gloch.

Mae digwyddiad Y Blas Mawr yn rhan o ymgyrch cyffredinol i hyrwyddo Iseldir Dyffryn Teifi fel cyrchfan o safon sydd yn cynnig bwyd da gyda milltiroedd bwyd isel, sydd yn adlewyrchu athroniaeth Theatr Byd Bychan ei hun.

Bydd y digwyddiad yn cyflwyno prynwyr bwyd gan gynnwys atyniadau, darparwyr llety a bwytai a chynhyrchwyr bwyd lleol. Bydd gwesteion yn gallu samplu cynnyrch, ymuno â thrafodaethau ar amrywiaeth o bynciau megis cynhyrchu bwyd cynaliadwy, y cyfleoedd drwy'r diwydiant twristiaeth a phwysigrwydd defnyddio bwyd lleol mewn sesiynau ‘o amgylch y bwrdd' gyda hwyluswyr cynnal.

Mae'r digwyddiad yn ffordd wych i chi rwydweithio gyda busnesau twristiaeth eraill yn ogystal a cynhyrchwyr bwyd eraill yn yr ardal.

Mae presenoldeb yn y digwyddiad yma yn RHAD AC AM DDIM ond oherwydd gofod cyfyngedig, rhoddir lle i'r rhai sy'n ymateb i'r gwahoddiad yn gynnar.

Os hoffech fynychu'r digwyddiad hwn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cwblhewch y ffurflen amgaeedig a'i dychwelyd erbyn dydd Gwener 8 Ionawr, 2010 at Julie Evans, Swyddog Prosiect, Canolfan Byd Bychan, Stryd y Bathon, Aberteifi, Ceredigion, SA43 1JY. F: 01239 615 952.