01239 615 952
English | Cymraeg | Sitemap | Cysylltu |

Am y prosiect

Prosiect cyffrous newydd yw Glaw neu hindda Cymru i farchnata ardal aber yr afon Teifi fel cyrchfan gwych i dwristiaid  ymhob tywydd.

Â’r Ganolfan i Gelfyddydau Cynaladwy Cymunedol Newydd yn ganolog i’r prosiect, bydd y fenter yn hyrwyddo amrywiaeth eang o weithgareddau addas i ymwelwyr boed hi’n bwrw glaw neu’n hindda.

Hefyd yn ganolog i’r prosiect  mae’r Wefan hon, yn rhoi gwybodaeth fanwl am beth I’w wneud yn Ne dyffryn y Teifi a ble i’w wneud e.  Ar ben hynny gallwch logi’r digwyddiad a thalu amdano ar y Wefan.

Mae Theatr Byd Bychan  (TBB) yn elusen fach sy’n arbenigo mewn Cefyddydau a Diwylliant er mwyn Datblygiad.  Mae gan y Gyfundrefn 25 mlynedd o brofiad o weithio  gydag amrywiol gymunedau Cymru, ar hyd a lled Prydain a thramor, gan ddefnyddio  dulliau cyfranogol celfyddydol i fanylu ar yr hyn sydd bwysicaf o fewn y cymunedau hynny.

Am fwy o wybodaeth am TBB, gweler ein gwefan.