Beth yw twristiaeth gynaliadwy?
Mae twristiaeth gynaliadwy yn cydnabod pwysigrwydd cynyddol a pharhaus twristiaeth mewn ardaloedd gwledig tra ceisir sicrhau y gall asedau allweddol twristiaeth, y dreftadaeth naturiol a’r cymunedau sydd mewn llefydd o’r fath, oroesi a ffynnu ochr yn ochrâ’r cynnydd parhaus.
Yr ydym ni yn Theatr Byd Bychan yn bwriadu darparu gweithgareddau a chynnal digwyddiadau sy’n annog defnyddio adnoddau adnewyddadwy. Mae esiamplau yn cynnwys cerfluniau broc môr, ffasiynau wedi’uhailgylchu a chwilota am fwyd. Beth y gallwch chi ei wneud i fod yn rhan o’r safle hwn
Sut ydym ni’n gynaliadwy?
Ein cartref yn Aberteifi ydi’r Ganolfan Byd Bychan, adeilad newydd sy’n ymgorffori amrywiaeth o dechnolegau sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ac yn ecogyfeillgar, gan gynnwys to sy’n tyfu bywlysiau, paneli dŵr solar, tanc sy’n casglu dŵr glaw, pwmp gwres sy’n defnyddio’r aer a llechi wedi’u hailgylchu.
Drwy’r prosiect hwn rydym yn bwriadu mynd i’r afael â rhai o heriau allweddol twristiaeth gynaliadwy drwy ddarparu a chynnal amrywiaeth o weithgareddau yn ein canolfan yn Aberteifi, tra hysbysebir gweithgareddau a digwyddiadau darparwyr twristiaeth leol eraill drwy gymorth y wefan hon.
Mae ein gwefan yn ddwyieithog ac yn rhoi’r cynnig i’n cyfranwyr ddarparu cynnwys yn y Gymraeg neu’r Saesneg.
Rydym eisiau creu rhwydwaith o ymwelwyr i’r safle hwn sy’n hapus i rannu gwybodaeth am yr hyn sy’n wych i’w wneud yng ngwaelod Dyffryn Teifi, tra codir ymwybyddiaeth am faterion allweddol twristiaeth gynaliadwy fel effaith trafnidiaeth dwristaidd, lleihau defnyddio a gwastraffu adnoddau a pharchu’r dreftadaeth naturiol a ddiwylliannol.
Cyllidir y prosiect hwn gan gynllun datblygu gwledig Cynulliad Cymru.
Hafan
Be' sy' 'mlaen